Ein Lleoliad
Prif swyddfa fywiog
Rydym ni wrthi’n symud gan sicrhau ein bod ar flaen y gad yn y sector adeiladu drwy ehangu a chreu ein prif swyddfa yn ardal fodern a bywiog Fletton Quays yn Peterborough. Mae’r ardal hon yn adlewyrchu’r sector adeiladu ym Mhrydain ar ei gorau, ac yn cynnig seilwaith a chysylltiadau cludiant gorau yn y wlad, gan ganiatáu i’n timau a’n cwsmeriaid ein cyrraedd ni yn haws.
Mae gan Peterborough lawer iawn i’w gynnig i ni, ac i’n pobl. Mae’n ddinas sy’n datblygu, a bydd yn denu rhagor o fusnesau cenedlaethol a byd-eang bob blwyddyn, gan greu twf cyffrous, ac mae hynny yn ei gwneud yn lle gwych i fusnesau newydd neu lwyddiannus sy’n ceisio adleoli neu ehangu.
Yn ogystal â bod yn lle gwych i weithio, mae Swydd Caergrawnt ei hun yn rhanbarth hyfryd i fyw ynddo, ac i fagu teulu. Mae ganddo fwy o fannau gwyrdd fesul pen nag unrhyw ddinas arall yn y wlad bron iawn, ac mae’n cynnig ansawdd bywyd rhagorol. Gallwch ddianc o brysurdeb canol dinas Peterborough i ardal ogoneddus Ferry Meadows ymhen dim ond pum munud.
Symud yma?
Byddwch yn falch o wybod bod Peterborough hefyd yn un o’r lleoedd mwyaf fforddiadwy i fyw ynddo yn y DU, â phrisiau tai cystadleuol ac un o’r lefelau isaf o dreth gyngor yn y wlad.
Ein presenoldeb yn y tair gwlad
Mae adeiladu yn bresennol ym mhob rhan o Brydain, a ninnau hefyd. Yn ogystal â’n prif swyddfa newydd, byddwn yn parhau i fod â phresenoldeb cenedlaethol mewn mannau ble gallwn sicrhau’r gwasanaeth gorau o safbwynt buddiannau ein cwsmeriaid a’n partneriaid. Rydym ni wedi ein cydleoli â’r llywodraeth ym mhob un o’r tair gwlad rydym ni’n cydweithio mor agos â hwy, gan gynnwys prifddinasoedd Caerdydd, Caeredin a Llundain.
© 2019 CITB
Llywio Safle
Adref
Amdanom Ni
Ein Lleoliad
Gweithio i Ni
Swyddi Gwag
Gwirfoddoli
Dolenni Defnyddiol
Datganiad Hygyrchedd
Polisi Preifatrwydd
Telerau ac Amodau